SL(6)341 –  Rheoliadau Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau Bwyd, a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ynghylch awdurdodiadau cynhyrchion bwyd rheoleiddiedig. Maent hefyd yn gwneud mân gywiriadau i gyfraith bwyd a chyfraith bwyd anifeiliaid

·         Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer awdurdodi, o ran Cymru, roi ar y farchnad a defnyddio’r ychwanegyn bwyd E 960c (rebaudiosid M a gynhyrchir drwy addasu glycosidau stefiol o Stevia ag ensymau), newid y cofnodion awdurdodi presennol ar gyfer yr ychwanegyn bwyd E 960 (glycosidau stefiol) i nodi E 960a (glycosidau stefiol o Stevia), darpariaethau trosiannol cysylltiedig ac yn gwneud mân gywiriadau.

·         Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer awdurdodi, o ran Cymru, roi ar y farchnad a defnyddio’r cyflasyn bwyd “3-(1-((3,5-deumethylisocsasol-4-yl)methyl)-1H-pyrasol-4-yl)-1-(3-hydrocsybensyl)imidasolidin-2,4-dion”.

·         Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn ymestyn yr awdurdodiad presennol ar gyfer y bwyd newydd “burum pobi sydd wedi ei drin ag UV (Saccharomyces cerevisiae)”, i gynnwys categorïau bwyd penodedig ychwanegol, gan awdurdodi rhoi ar y farchnad bowdr madarch fitamin D2 newydd fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau bwyd penodedig.

·         Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys mân gywiriadau i is-offerynnau Cymreig amrywiol ar gyfraith bwyd a chyfraith bwyd anifeiliaid.

Daeth Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Ebrill 2023. Daw Rhannau 2, 3 a 4 i rym ar 15 Mai 2023.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pum pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae Rheoliad 2 a pharagraff 4(h) o Atodlen 1 yn rhoi E-rifau “E 960a ac E 960c” yng nghategori 05.1 yn y tabl sy’n ymddangos yn Rhan E o Atodiad 2 i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008. Mae hyn yn awdurdodi defnyddio'r E-rifau hynny fel ychwanegion bwyd mewn rhai cynhyrchion coco a siocled.

Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth hefyd yn mewnosod cyfeiriad at droednodyn “(1)” mewn perthynas â’r awdurdodiad, sydd ddim yn gyfeiriad at droednodyn sy’n ymddangos o fewn categori 05.1 yn y tabl. Felly, ymddengys bod gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r awdurdodiad ar goll.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Rheoliad 2 a pharagraff 4(i)(ii) o Atodlen 1 yn rhoi E-rifau “E 960a ac E 960c” yng nghategori 05.2 (melysion eraill gan gynnwys micro-felysion ar gyfer puro’r anadl) o'r tabl yn Rhan E o Atodiad 2 i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008. Mae’r cofnod a roddwyd yn lle’r testun gwreiddiol yn cynnwys y cyfyngiad a ganlyn ar yr awdurdodiad: “only cocoa, milk, dried-fruit-based [pwyslais wedi’i ychwanegu] or fat-based sandwich spreads,...”.

Ymddegnys bod y geiriad hwn yn awdurdodi defnyddio'r E-rifau uchod ar gyfer dau fath penodol o daeniad brechdanau (sef taeniadau brechdanau wedi'u seilio ar ffrwythau sych a thaeniadau brechdanau sydd wedi’u seilio ar fraster). Fodd bynnag, nid yw’n glir ai dyma yw bwriad y gwaith drafftio wrth gymharu geiriad y cyfyngiad hwnnw â chyfyngiadau presennol tebyg yng nghategori 05.2 o’r tabl, sy’n gwneud y cyfeiriad a ganlyn “only cocoa, milk, dried fruit or fat-based sandwich spreads,…”.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 2 ac is-baragraffau (o), (p) a (q) o baragraff 4 yn Atodlen 1 yn rhoi awdurdodiad ar gyfer E-rifau "E 960a ac E 960c" yn lle "E 960” ar gyfer categorïau amrywiol o felysyddion bwrdd, sef melysyddion ar ffurf hylif, ar ffurf powdr ac ar ffurf tabledi yn y drefn honno. Fodd bynnag, nid yw'r awdurdodiadau a roddwyd yn lle’r testun gwreiddiol yn pennu a ellir ychwanegu'r ychwanegion yn unigol neu mewn cyfuniad, sy'n groes i awdurdodiadau eraill yn y tabl yn Rhan E o Atodiad 2 i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008, sy'n cyfeirio at E-rifau gyda'i gilydd. Felly, nid yw'n glir ar unwaith a yw hwn yn hepgoriad bwriadol ac, os felly, sut y dylid dehongli'r awdurdodiad ar gyfer yr ychwanegion penodol hyn.

4.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn diwygio’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 drwy roi “E 960a Steviol Glycosides from Stevia” yn bennawd ar gyfer y cofnod presennol sy’n cyfeirio at “E 960 Steviol Glycosides”, a mewnosod cofnod newydd ar gyfer E 960c (“rebaudiosid M a gynhyrchir drwy addasu glycosidau stefiol o Stevia ag ensymau.”).

Fodd bynnag, mae Erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 (Dod i rym) yn parhau i gyfeirio at fanyleb a nodwyd yn yr Atodiad ar gyfer “steviol glycosides (E 960)”, nad yw’n ymddangos yn yr Atodiad mwyach o ganlyniad i'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 6 ac Atodlen 5 yn diweddaru’r rhestr o fwydydd newydd awdurdodedig yn yr Atodiad i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2470 drwy fewnosod cofnod newydd sy’n awdurdodi powdr madarch fitamin fitamin D2 newydd fel bwyd newydd i'w ddefnyddio mewn categorïau penodol o fwyd.

Mae'r rhestr o fwydydd newydd yn yr Atodiad yn cynnwys dau dabl. Mae “Tabl 1” yn rhestru’r holl fwydydd newydd awdurdodedig ac o dan ba amodau y gellir defnyddio’r bwydydd hyn, yn ogystal â gofynion eraill (er enghraifft, lefelau uchaf amrywiol o fitamin D2 a ganiateir mewn gwahanol gategorïau o fwyd).  Mae “Tabl 2” yn rhestru’r holl fwyydd newydd awdurdodedig a'r manylebau cyfatebol.

Mae’r Atodiad (fel y’i diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) bellach yn cynnwys cofnodion ar gyfer dau fath o bowdr madarch Fitamin D2. Er mai'r un yw'r enw a roddir i'r bwydydd newydd hyn yn yr Atodiad, mae'r manylebau a'r amodau ar gyfer y ddau gofnod yn amrywio. Yn unol â hynny, ymddengys y gellid peri dryswch i rywun sy’n darllen y ddeddfwriaeth wrth benderfynu pa fanyleb ar gyfer powdr madarch Fitamin D2 yn Nhabl 2 sy’n cyfateb i'r amodau perthnasol a’r gofynion eraill ar gyfer ei ddefnyddio sy'n ymddangos yn Nhabl 1.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

6.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gywirio tri offeryn statudol Cymreig i ymdrin â phwyntiau craffu technegol 2, 3 a 5 a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor hwn ar Reoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022.

Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn nodi (ym mharagraff 3) y rhoddwyd sylw i'r ddau bwynt craffu technegol arall a nodwyd gan y Pwyllgor yn yr adroddiad hwnnw cyn cyhoeddi'r Rheoliadau hynny.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r pwyntiau craffu technegol.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

19 Ebrill 2023